Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 24 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:43 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_24_10_2012&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
John Puzey, Shelter Cymru Lee Phillips, Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol Nick Bennett, Cartrefi Cymunedol Cymru Clare Williams, Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru Nigel Draper, Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru Matt Bland, Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates.
2. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010
Croesawodd y Cadeirydd John Puzey o Shelter Cymru i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.
Cytunodd John i ddarparu nodyn am yr effaith y bydd cyflwyno’r system credyd cynhwysol yn ei gael, ac yn benodol ar y galw am gyngor ar arian a dyledion.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010
Croesawodd y Cadeirydd Lee Phillips o’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.
Cytunodd Lee i ddarparu gwybodaeth am nifer y materion sy’n ymwneud â benthyciadau diwrnod cyflog sydd wedi cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.
4. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010
Croesawodd y Cadeirydd Nick Bennett, Clare Williams a Nigel Draper o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
Rôl swyddogion a thimau cynhwysiant ariannol cymdeithasau tai;
Gallu ariannol tenantiaid sy’n aelodau o grwpiau cymdeithasol penodol, fel rhai nad ydynt yn gallu siarad Saesneg;
Copi o’r adroddiad effaith; a
Data ynghylch nifer y bobl y bydd y dreth ystafell wely yn effeithio arnynt.
5. Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad 'Cynhwysiant Ariannol ac Effaith Addysg Ariannol' - Tachwedd 2010
Croesawodd y Cadeirydd Matt Bland o Gymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.
6. Papurau i'w nodi
Nodwyd y papurau.
6.1 CELG(4) - 24-12- Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref
6.2 CELG(4) - 24 - 12 - Papur 4 a Phapur 4A - Cynhwysiant ariannol ac effaith addysg ariannol - adroddiad 2010 ac ymateb Llywodraeth Cymru
Trawsgrifiad